Mae Snowslippers yn gwmni sy’n arbenigo yn nhrefnu gwyliau sgïo ac eira-fyrddio i ysgolion, prifysgolion a grwpiau o oedolion. ‘Rydym wedi bod yn trefnu gwyliai i ysgolion am dros ddegawd, ac mae nifer o’n cwsmeriaid gwreiddiol o’r nawdegau cynnar yn dal i deithio gyda ni. Yn wir, mae pob ysgol a ddaeth gyda ni yn ein tymor cyntaf yn dal i ddod, 15 mlynedd yn ddiweddarach.
Ffurfiwyd y cwmni gan ddau gyn athro a oedd yn ymwybodol o’r anawsterau a’r trafferthion sy’n ymwneud â threfnu taith sgïo. Erbyn hyn, mae gan Snowslippers dîm o bobl â phrofiad mewn dysgu, mynydda, hyfforddi sgïo ac wrth gwrs, trefnu teithiau i grwpiau. Eu bwriad oedd dileu’r pwysedd sy’n ynghlwm â chynllunio, trefnu a gweithredu taith o’r fath.
Bu’r cynydd a’r twf yn y cwmni yn araf ar y dechrau, a hynny’n fwriadol. ‘Roedd yn bwysicach i sicrhau bod y safon uchel ‘roeddem am ei gynnig, a’r cwsmeriadid cyntaf yn disgwyl a’i haeddu, o’r radd flaenaf. ‘Roedd safonnau gwasanaeth cwsmeriaid, trefniadaeth, iechyd a diogelwch ac wrth gwrs, hwyl, yn bwysicach nag ehangu’n gyflym. Mae’r egwyddor yma yn bodoli o hyd, er bod y nifer o grwpiau sy’n clywed amdanom ar lafar ac sydd am i ni drefnu eu trip nhw, yn cynyddu o hyd. Mae nifer o’r rhain nawr yn gwsmeriaid rheolaidd i ni.
Yn ddiweddar, ‘rydym wedi arallgyfeirio rhywfaint. Mae nifer o brifysgolion yn dod nôl atom blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae grwpiau canolfan ffitrwydd yn defnyddio’r gwasanaeth, a hefyd grwpiau o ffrindiau sydd am wythnos o weithgaredd sy’n llawn hwyl, yn heriol, a’r cyfan am brys cystadleuol. Mae ein gwêfan yn adlewyrch natur wreiddiol y cwmni yn bennaf, h.y. gwasanaeth i ysgolion, ond gobeithio bod y naws y ceisiwn greu am Snowslippers yn dangos efallai bod rhywbeth gyda ni i gynnig i chi os ydych yn dymuno ymweld â’r rhan yma o’r Alpau.
�Rydym yn defnyddio�r un cyrchfannoedd ers 15 mlynedd ac wedi sefydlu perthynas agos iawn gyda�r bobl leol sy�n dibynnu gymaint ar y diwydiant twristiaeth am eu bywoliaeth.
Mae Salzburg, lle geni Amadeus Mozart, yn ganolbwynt i’r rhanbarth sgïo mwyaf yn Ewrop. Canolbwynt gweithgareddau Snowslippers yw St Johann im Pongau ac yn enwedig y pentref prydferth lle lleolir y lifft cyntaf, sef Alpendorf. Mae Alpendorf yn ddechreuad i’r rhanbarth gyfan sy’n cynnwys 276 o lifftiau a 550 milltir o lethrau amrywiol. Mae digonedd o le i’r dechreuwr mwyaf nerfus a digonedd o ehangder i’r sgïwr/eirafyrddiwr mwyaf profiadol. Enw’r rhanbarth yw ‘Ski Alliance Amade’.
Mae’r llety a gynnigir mewn gwestai traddodiadol ar delerau gwely, brecwast a chinio hwyr tri chwrs. Eto mae Snowslippers wedi delio gyda’r teuluoedd sydd berchen y gwestai ers degawd ac wedi sefydlu, ac yn meithryn perthynas agos iawn gyda nhw. Pawb, Snowslippers, yr ysgol sgïo leol, y gwestai a’r bobl leol, gyda’r un nôd o sicrhau bod yr wythnos yn un fythgofiadwy.
Mae Snowslippers yn mynnu cynnig gwasanaeth bersonol i bawb. Heblaw am eu cynrychiolydd a fydd gyda phob grwp bob bore wrth gyrraedd y lifft cyntaf a gyda gweithgareddau’r hwyr, mae’r perchnogion yn bresennol drwy gydol eich ymweliad i sicrhau bod pawb a phopeth o’r safon uchaf posib. Mae’r teithiau 9 niwrnod wedi eu cynllunio i fod yn orlawn, heb amser i ymlacio, os mae dyna’ch dymuniad.
Hefyd, i ysgolion, cynigir un lle am ddim am bob 8 sy’n talu’n llawn.
Bysiau gwych, gyrrwyr cymwynasgar, gewstai cyfeillgar, hyfforddiant arbennig, gwersi drwy'r dydd, ardal hyfryd, llethrau di-ddiwedd, lifftiau i gyd ar agor -Rhagfyr, Chwefror neu Pasg, gweithwyr lleol hynaws, canolfan gyfleus i weithgareddau hwyr, dewis o siopa, hyd yn oed ysbyty yn agos, a chyfarwyddwyr y cwmni wrth law i ddatrys unrhyw broblem. Y cyfan am bris hynod o gystadleuol. Gobeithio byddai'n ymddeol cyn nhw!
or call
07837 093 989